Torfaen Museum Slider Museum Family
Dewch i weld
Japanwaith
Torfaen Museum Slider Museum Family
Rhowch floedd dros
‘Pooler’
Torfaen Museum Slider Museum
Dewch i ddysgu am orffennol
Torfaen
previous arrow
next arrow

Dewch i ganfod ein hanes

Croeso i Amgueddfa Torfaen

Yma fe welwch ystod eang o adnoddau, p’un a ydych yn chwilio am gymorth i gwblhau prosiect ymchwil, neu efallai bod gennych ddiddordeb yn hanes Torfaen, neu’n bwriadu ymweld â ni. Gan fanteisio ar dros 40 mlynedd o gasglu ac astudio, mae gennym ddigon o straeon i’w rhannu. Drwyddynt hwy, dewch i archwilio treftadaeth hynod ddiddorol Torfaen.

Torfaen Museum WW2 Crane Street History of Torfaen CTA

Hanes Torfaen

Mae Amgueddfa Torfaen yn dweud stori’r sir trwy lygaid y bobl sy’n byw ac sydd wedi byw o fewn ei bryniau.
Torfaen Museum Japanware CTA

Japanwaith

Mae gennym gasgliad helaeth o Japanwaith Pont-y-pŵl. Wedi eu saernïo yn ystod y 17eg ganrif, mae eitemau’n cynnwys hambyrddau, tebotiau a chanwyllbrennau.
Torfaen Museum Pontypool vs All Blacks CTA

Clwb Rygbi Pont-y-pŵl 'Pooler’

Mae rygbi’n chwarae rhan bwysig yn hanes Pont-y-pŵl, ers sefydlu’r clwb yn 1868, at ‘Lewod’ Pooler yn y 1970au a’r 80au.

Cyfle i Gwrdd â Phobl Torfaen

Drwy’r wefan hon a thrwy ymweld â’r Amgueddfa, fe ddowch ar draws cyfleoedd i gael cipolwg ar fywydau ein cyndeidiau fu’n byw ar hyd a lled y sir, a thros y canrifoedd. Fe gewch gyfle i glywed hanes Bertram, ffermwr fu’n byw ger Abaty Llantarnam sy’n dyddio o’r 14eg ganrif. Darganfyddwch darddiad gwaith Japan a’r ymrafael fu bron â dinistrio busnes y teulu. Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth oedd bywyd i deulu glöwr? Dyma gyfle i glywed eu straeon ac ystyried, a hoffech chi fod wedi byw yn eu byd?

Amdanom Ni

Sefydlwyd Amgueddfa Torfaen gan Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen ym 1978. Mae’n elusen gofrestredig a’i phwrpas a’i bwriad yw “cadw, dehongli, lledaenu a dathlu diwylliant lleol a dod â diwylliant cymunedau eraill i gymunedau Torfaen a thu hwnt.”

Yn unol â’r datganiad cenhadaeth hwn, mae’r Ymddiriedolaeth wedi datblygu’r Amgueddfa dros y 45 mlynedd diwethaf fel y gall arddangos hanes Torfaen, o sylfeini cynnar tref Pont-y-pŵl yn y diwydiannau haearn a thun i gymunedau glofaol Blaenafon a datblygiad Tref Newydd Cwmbrân yn y 1950au. Y gobaith yw, drwy ei bolisïau o gasglu a dehongli’r straeon hyn, y gall yr Ymddiriedolaeth ddod â hanes ein sir yn fyw i genedlaethau, yn awr ac yn y dyfodol.

Rheolir yr Amgueddfa ei hun gan Fwrdd Ymddiriedolwyr cadarn a chaiff ei rhedeg gan dîm bach o staff, sy’n cynnwys Curadur, Gweinyddwr, tîm o staff rheng flaen a nifer o wirfoddolwr ymroddedig.

Yr Adeilad a’r Casgliadau

Lleolir Amgueddfa Torfaen yn y bloc stablau o’r cyfnod Sioraidd a oedd unwaith yn eiddo i Dŷ Parc Pont-y-pŵl, cartref teulu Hanbury ym Mhont-y-pŵl. Heddiw, mae’r mynedfeydd bwaog a’r clos hardd â lloriau coblog yn dal i dynnu sylw at ysblander yr oes anghofiedig tra bod drysau’r stablau a’r cilfachau bagiau yn awgrymu yn y lled gyfeirio at y gwaith caled a wnaed yma. Dyma hefyd lle y bu llawer o’r gweision oedd yn ddynion yn y Tŷ yn byw ar un adeg.

Heddiw mae’r adeilad yn parhau i fod wedi ei rannu gan y stablau gwreiddiol er eu bod bellach yn gartref i’n harddangosfeydd yn hytrach na cheffylau. Mae’r clos canolog yn cynnig man tawel a llonydd i gael paned o de neu i wrando ar gân yr adar ym Mharc Pont-y-pŵl sydd gerllaw.

Mae’r casgliadau yn Amgueddfa Torfaen yn eang, o nwyddau gwyn y cartrefi yn y 1950au i injan dân Blaenafon a warchodai’r strydoedd yn y 19eg ganrif. Mae ein casgliad hanes cymdeithasol yn cynrychioli bywydau amrywiaeth eang o bobl ar hyd y 19eg a’r 20fed ganrif, gyda ffocws arbennig ar blentyndod a theganau. Mae gennym gasgliad celf barhaol tra bod arteffactau o Abaty Llantarnam a’r ardaloedd o amgylch Cwmbrân yn cynnig cipolwg ar fywyd yn yr oesoedd Canol a chynt.

Rydym hefyd yn arddangos y gyfres genedlaethol o waith Japan, gan gynnwys eitemau o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Dysgwch fwy am y gelfyddyd hardd hon ar ein tudalen Gwaith Japan.

Ffôn: 01495 752036

Amgueddfa Torfaen Museum,
Adeiladau'r Parc,
Pont-y-pŵl,
Torfaen NP4 6JH

Dydd Mercher

10am tan 4pm

 

Dydd Sadwrn

1pm tan 4pm

 

Mynediad Olaf

3.30pm

Amgueddfa Torfaen Museum | Ein Rhif Elusen: 507419