Beth Sy’ Mlaen

Sioe Wanwyn Aelodau

Ar agor Ion – Mawrth 2024

Arddangosfa fywiog o weithiau gan aelodau o Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen gan gynnwys tirluniau, bywyd llonydd a chelf haniaethol. Bellach i’w gweld yn Oriel Celf.

Mynediad am ddim

Darlithoedd Cymdeithas Hanes Lleol Pont-y-pŵl

Mae Cymdeithas Hanes Lleol Pont-y-pŵl a sefydlwyd ym 1970, yn ceisio ymgysylltu â phobl o bob oed er mwyn annog diddordeb yn hanes Pont-y-pŵl a’r cyffiniau.

Gan gydweithio gydag Amgueddfa Torfaen, mae’r Gymdeithas yn cynnal cyfres o ddarlithoedd yn yr Amgueddfa ar hyn o bryd, a hynny yn Oriel Barker Gallery. Mae’r holl ddarlithoedd yn dechrau am 1.45pm ac yn parhau am tua awr, gyda lluniaeth i ddilyn. Mae tocynnau’n £3 i’r rhai nad ydynt yn aelodau.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ar: pontypool-lhs@outlook.com

Grŵp Celf Brws

Ers ei sefydlu’n ddiweddar gan Karen Jones a Sue Tennet, mae’r grŵp celf yn cyfarfod ar ddydd Iau cyntaf pob mis yn Amgueddfa Torfaen yn Oriel Barker.

Gan arbenigo mewn celf brws Tsieineaidd, mae Karen a Sue yn hapus bob amser i groesawu artistiaid newydd i’r grŵp, boed eu bod yn gweithio mewn dyfrlliwiau, olew neu drwy gyfrwng arall.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn paentio, beth am ddod i baentio, rhannu syniadau neu sgwrsio? Mae’r sesiwn rhwng 10.30am a 12.30pm. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Amgueddfa os gwelwch yn dda.

Ffôn: 01495 752036

Amgueddfa Torfaen Museum,
Adeiladau'r Parc,
Pont-y-pŵl,
Torfaen NP4 6JH

Dydd Mercher

10am tan 4pm

 

Dydd Sadwrn

1pm tan 4pm

 

Mynediad Olaf

3.30pm

Amgueddfa Torfaen Museum | Ein Rhif Elusen: 507419