Llyfrgell ac Archif

Mae Llyfrgell ac Archif Dobell-Moseley yn cadw casgliadau llyfrau, ffotograffau ac effemera’r Amgueddfa sy’n ymwneud â sir Torfaen. Mae’r llyfrgell hefyd yn cadw hen gopïau o’r Pontypool Free Press. Mae’n drysor cynhenid i unrhyw un sy’n ymchwilio i’r ardal.

Ymchwil a Dysgu

Sefydlwyd y Llyfrgell a’r Archif yn y 1980au gyda chymorth Cymdeithas Hen Ferched Ysgol Sirol Pont-y-pŵl, a chafodd y Llyfrgell a’r Archif eu henwi i goffáu dau ffigur blaenllaw yn hanes yr ysgol. Heddiw, fe’i rheolir yn ofalus gan ein tîm ymroddedig o Lyfrgellwyr gwirfoddol sy’n gweithio i gatalogio, digideiddio a gwarchod yr eitemau gwerthfawr hyn. Maent hefyd yn cynnal ymchwil ar gyfer yr Amgueddfa a’r cyhoedd.

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda phrosiect ymchwil, hanes teulu neu ymholiad cyffredinol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod.

Noder ein bod yn codi ffi fechan am gynnal ymchwil:

  • £5 yr ymholiad ymchwil
  • £1 am bob llun yr hoffech ei sganio neu ei lungopïo (os yw’r hawlfraint yn caniatáu)

Gellir talu’r symiau hyn naill ai drwy siec i Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen, neu gyda cherdyn dros y ffôn.

Os hoffech ymweld â’r Llyfrgell a’r Archif i ddefnyddio ein Hystafell Ymchwil, rhowch alwad i ni i archebu sesiwn.

Sylwch mai ychydig iawn sydd gennym am bobl unigol o orffennol Torfaen. Rydym yn hapus i geisio dod o hyd i wybodaeth, ond ar gyfer y math hwn o ymholiad rydym yn cynghori bod ymwelwyr yn mynd at Archifau Gwent.

Gwneud Ymholiad

I wneud ymholiad, cwblhewch y ffurflen gyswllt isod ac fe wnawn ein gorau i ateb cyn gynted â phosibl.

Name(Required)

Ffôn: 01495 752036

Amgueddfa Torfaen Museum,
Adeiladau'r Parc,
Pont-y-pŵl,
Torfaen NP4 6JH

Dydd Mercher

10am tan 4pm

 

Dydd Sadwrn

1pm tan 4pm

 

Mynediad Olaf

3.30pm

Amgueddfa Torfaen Museum | Ein Rhif Elusen: 507419