Aelodaeth

Aelodaeth

Beth am ddod yn aelod a’n helpu ni i achub treftadaeth ein cwm, gan ddiogelu’r hanes ar gyfer y dyfodol.

Mae Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen yn elusen gofrestredig sy’n diogelu ac yn casglu arteffactau hanesyddol a diwylliannol Torfaen ar ran y cyhoedd, yn ogystal â chasglu gwaith gan artistiaid lleol. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi’i lleoli yn Amgueddfa Torfaen ym Mhont-y-pŵl, ochr yn ochr â bron i ugain mil o eitemau.

Wrth ddod yn aelod, bydd eich cefnogaeth a’ch cyfraniad yn helpu i storio, cadw a diogelu ein hanes lleol cyfoethog ac amrywiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy ymuno a ni, bydd eich cyfraniad yn ein cynorthwyo i ofalu am ein casgliadau, gan gynnwys eu cadwraeth, dehongliadau a digwyddiadau newydd, yn ogystal ag adnoddau dysgu ac addysg yn yr Amgueddfa. Yn gyfnewid fe gewch y buddion a ganlyn…

Buddion Aelod

  • Mynediad am ddim i holl arddangosfeydd yr Amgueddfa, cylchlythyrau rheolaidd a’r wybodaeth ddiweddaraf am brojectau’r Amgueddfa
  • Gostyngiad unigryw o 10% oddi ar lyfrau ac anrhegion penodol yn siop yr Amgueddfa a 10% i ffwrdd yn siop goffi’r Amgueddfa
  • Gwahoddiadau unigryw i ddigwyddiadau arbennig ac achlysuron agor arddangosfeydd yn yr Amgueddfa
  • Yr hawl i bleidleisio yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen i benodi Ymddiriedolwyr newydd
  • Mae Aelodau busnes yn cael hyrwyddiad am ddim yng nghylchlythyrau, cyfryngau cymdeithasol a gwefan yr Amgueddfa
  • Mae Aelodaeth busnes a grŵp yn cynnig mynediad am ddim i weithwyr, i’r arddangosfeydd

Ffioedd Aelodaeth

Aelodaeth Unigol £25
Pâr/Teulu £30
Busnes/Grŵp £75

Mae’n costio cyn lleied â 48c yr wythnos i’n cefnogi.

Mae pob aelodaeth yn ddilys o 1 Ebrill tan 31 Mawrth.

Mae talebau aelodaeth a brynwyd fel anrhegion Nadolig yn ddilys o’r mis Ebrill canlynol.

Beth am sefydlu Rhodd Cymorth wrth Danysgrifio?

Rhodd Cymorth yw cynllun y Llywodraeth sy’n caniatáu i sefydliadau elusennol adennill treth ar danysgrifiadau Aelodaeth a rhoddion. Os ydych chi’n drethdalwr yn y DU (gan gynnwys pensiynau) ac rydych chi’n ticio’r blwch ar y ffurflen danysgrifio, bydd yr Ymddiriedolaeth yn derbyn 25c yn ychwanegol am bob £1 a ddaw i law.

Ffurflen Aelodaeth

Name(Required)

Ffôn: 01495 752036

Amgueddfa Torfaen Museum,
Adeiladau'r Parc,
Pont-y-pŵl,
Torfaen NP4 6JH

Dydd Mercher

10am tan 4pm

 

Dydd Sadwrn

1pm tan 4pm

 

Mynediad Olaf

3.30pm

Amgueddfa Torfaen Museum | Ein Rhif Elusen: 507419