Gwirfoddoli

Gwirfoddoli

Rydym yn gwerthfawrogi’n ein tîm o wirfoddolwyr yn fawr iawn yma yn Amgueddfa Torfaen, ac mae pob un ohonynt yn cyfrannu eu hamser, eu hegni a’u gwybodaeth i’n helpu i warchod ein hanes lleol. Gydag ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael, beth am ymuno â ni, dysgu sgiliau newydd a dod yn rhan o’r tîm.

Mae gennym sawl lleoliad ar gael os hoffech wirfoddoli a byddwn yn ceisio darparu ar gyfer eich diddordebau unigryw yn y ffordd orau bosib. Gallwch wirfoddoli cymaint neu gyn lleied ag yr hoffech ac ar ba bynnag ddiwrnod sy’n gyfleus i chi. Rydym yn gallu cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i unrhyw un dros 16 oed, gyda digon o weithgarwch corfforol i’r rhai sy’n dymuno cadw’n brysur, neu rolau tawelach i’r rhai a hoffai ymlacio a chymryd pethau’n araf. Does dim cyfweliad ffurfiol er y byddem yn eich gwahodd am sgwrs anffurfiol cyn dechrau fel ein bod yn deall eich anghenion yn llawn. Dydyn ni ddim yn mynnu bod gennych chi unrhyw gymwysterau a does dim pwysau arnoch i aros.

Gofynnwn i bawb sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli yn Amgueddfa Torfaen gofrestru eu diddordeb drwy lenwi Ffurflen Gofrestru (isod) ar gyfer rôl wirfoddoli benodol. Yna, fe gewch eich gwahodd am gyfweliad anffurfiol yn yr Amgueddfa i drafod eich anghenion o ran gwirfoddoli. Edrychwch ar y cyfleoedd gwirfoddol sydd gennym ar hyn o bryd, yma …

Gwirfoddoli yn y Dderbynfa

Gallai’r rôl hon gynnwys gwerthu a chofnodi tocynnau mynediad a nwyddau o’r siop, trin arian, dysgu a chyfleu gwybodaeth am yr Amgueddfa, ei gwasanaethau a’r ardal i’n hymwelwyr, cymryd archebion ar gyfer gweithdai a digwyddiadau, helpu i reoli dyddiadur yr amgueddfa, ateb a gweithredu ar alwadau ffôn neu helpu i gadw’r dderbynfa ac ardaloedd y siop yn lân a thaclus.

Gwirfoddoli yn y Siop Goffi

Bydd y rôl hon yn rhoi cyfle i chi gyfarch a gwasanaethu ein cwsmeriaid, sicrhau bod rheoliadau hylendid a diogelwch yn cael eu dilyn, creu diodydd a darparu syniadau ar gyfer cynhyrchion newydd sydd ar gael, rheoli stoc a chael hyfforddiant a phrofiadau newydd.

Gwirfoddoli gyda’r Casgliadau

Fel Gwirfoddolwr gyda’r Casgliadau, bydd gennych gyfle i weithio’n uniongyrchol â’r gwrthrychau hanesyddol o fewn y casgliadau, gan weithio’n agos ochr yn ochr â’r staff curadurol. Gallai dyletswyddau gynnwys helpu i storio a glanhau gwrthrychau, symud gwrthrychau neu adrodd ar amodau amgylcheddol. Darperir yr holl hyfforddiant.

Gwirfoddoli yn y Llyfrgell a’r Archif

Bydd dyletswyddau’n cynnwys cefnogi’r tîm o lyfrgellwyr yn Llyfrgell ac Archif Dobell-Moseley yn Amgueddfa Torfaen. Gallai hyn olygu tacluso a chadw ardaloedd y llyfrgelloedd yn daclus ac yn ddiogel, ymchwilio i ymholiadau hanes lleol ar ran aelodau’r cyhoedd, cyfrannu at ddigideiddio deunyddiau’r archif a chatalogio deunyddiau newydd yn y casgliad.

Gwirfoddoli i Gynorthwyo yn Ystod Digwyddiadau

Mae Gwirfoddolwyr sy’n Cynorthwyo yn ystod digwyddiadau yn hanfodol i sicrhau bod yr holl ddigwyddiadau yn llifo’n esmwyth yn Amgueddfa Torfaen, boed hynny’n ddigwyddiadau mawr neu fach. Mae’r rhain yn amrywio o deithiau o amgylch yr Amgueddfa i gynadleddau sydd wedi eu harchebu ar gyfer ein hystafell gymunedol a digwyddiadau aml-asiant neu deuluol. Cynhelir y digwyddiadau hyn yn rheolaidd er y gall oriau gwirfoddoli sydd ar gael amrywio yn ôl anghenion yr Amgueddfa.

Gwirfoddoli yn yr Ardd ac ar y Tir

Yng nglos Amgueddfa Torfaen, mae gennym nifer o welyau uchel a photiau planhigion sydd yn galw am dîm ymroddedig o wirfoddolwyr i’w cadw i edrych yn daclus a chroesawgar i ymwelwyr. Mae yna hefyd waith ysgubo, glanhau, codi sbwriel, sychu drysau a ffenestri a rhywfaint o waith paentio, i’r rheini sy’n ffansio mynd amdani. Os ydych yn arddwr brwd neu’n ymddiddori mewn helpu i gadw ein hadeilad i edrych ar ei orau yna byddem wrth ein boddau i glywed gennych.

Ffurflen Gwirfoddolwy

Name(Required)

Ffôn: 01495 752036

Amgueddfa Torfaen Museum,
Adeiladau'r Parc,
Pont-y-pŵl,
Torfaen NP4 6JH

Dydd Mercher

10am tan 4pm

 

Dydd Sadwrn

1pm tan 4pm

 

Mynediad Olaf

3.30pm

Amgueddfa Torfaen Museum | Ein Rhif Elusen: 507419